£100,000 o gyllid brys i gefnogi sinemau yng Nghymru sydd mewn angen dwys yn ystod Covid-19

© Mission Photographic, Geraint Perry, Jon Pountney, David Broadbent

Datganiad i’r Cyfryngau: 15fed Mehefin 2020

Dyfarniad Canolfan Ffilm Cymru o £100,000 o gyllid brys i gefnogi sinemau yng Nghymru sydd mewn angen dwys yn ystod Covid-19

Dysgwch sut mae’r bobl y tu ôl i’r sinemau yng Nghymru yn goroesi’r cyfnod cloi

Mae Canolfan Ffilm Cymru wedi dyfarnu cyllid Loteri Cenedlaethol o £100,000 i 16 o sinemau annibynnol a gwyliau ffilm yng Nghymru sydd wedi cael eu heffeithio’n ddifrifol gan Covid-19. Wedi gorfod cau eu drysau ar ddechrau’r cyfnpd cloi yn y DU, mae’n debygol mai’r lleoliadau hyn fydd rhai o’r cyrff olaf i ailagor wrth i’r pandemig gilio.

Gyda misoedd o fod ar gau ac ansicrwydd o’u blaenau o ganlyniad i’r pandemig, fe fydd y cyllid yma yn cynorthwyo sinemau sydd mewn angen ariannol dwys.

I gynnal incwm hanfodol yn y tymor byr ac i gadw mewn cysylltiad gyda chynulleidfaoedd, mae rhai lleoliadau yn datblygu gweithgareddau ar-lein. Yn Nhywyn, fe fydd y Magic Lantern yn cynnal prosiect cof digidol dwyieithog i edrych ar rôl y sinema yn y gymuned. Yn y Bari mae Memo Arts Centre yn cynllunio prosiect amlgyfryngau gan weithio gyda grwpiau hyglwyf i nodi cymhlethdodau ailymgysylltu cynulleidfaoedd yn ystod ac ar ôl Covid-19.

Maen nhw hefyd yn chwilio am gyllid pellach i edrych ar gynlluniau goroesi busnes ar gyfer y dyfodol., yn cynnwys syniadau ar gyfer digwyddiadau cadw pellter cymdeithasol a fydd yn hanfodol er mwyn osgoi cau yn barhaol. O syniad Cellb o sinema awyr agored ‘Mwoo’, lle byddai cynulleidfaoedd yn cadw pellter cymdeithasol ar lled buwch; i blatfform ‘Ein Dalgylch’ Neuadd Ogwen sydd â’r nod o ddod ag artistiaid o bob disgyblaeth allan o’r lleoliad i berfformio yn y dyffryn, fforestydd a mynyddoedd.

Mae sinemau a gwyliau yn cael eu gyrru yn ystod y cyfnod anodd hwn gan bobl ymroddedig sydd yn gweithio tu ôl i’r llenni, yn ceisio dwyn cymunedau yn ôl at ei gilydd drwy ffilm. Mae Canolfan Ffilm Cymru yn gweithio’n galed gyda’r 16 partner i ddeall sut mae Covid-19 wedi effeithio arnyn nhw, fel bod modd cyflwyno’r dewis mwyaf o sinema i gynulleidfaoedd ar draws Cymru unwaith eto.

Mae Hana Lewis, Rheolwraig Strategol Canolfan Ffilm Cymru yn esbonio:

“Mae sinemau yn gwneud cymaint inni; maen nhw yno pan rydyn ni eisiau dianc, maen nhw’n dod â ni at ein gilydd ac yn ein cysylltu gyda’r byd. Rydyn ni wedi cael ein rhyfeddu gyda chapasiti staff sinemau i ofalu am eu cynulleidfaoedd, o gyflenwi cyflenwadau lleol, i gyfarfod eu hymrwymiadau ariannol. Roedden ni eisiau manteisio ar y cyfle i rannu eu straeon.

“O ganlyniad i’r cyfnod cloi, daeth incwm o werthiant tocynnau a chonsensiynau i ben dros nos, gan roi nifer o gyrff annibynnol a’u timau mewn perygl. Mae’r daith ymlaen yn hir ac fe fydd sinemau angen cefnogaeth barhaus. Rydyn ni’n gobeitho y gall cronfa gwytnwch FAN BFI ddechrau’r daith tuag at ailagor.”

Dywedodd Ben Luxford, Pennaeth Cynulleidfaoedd BFI:

“Mae ailgyfeirio cyllid y Loteri Cenedlaethol a Maer Llundain i roi grantiau argyfwng i’n harddangoswyr annibynnol wedi bod yn llinell bywyd, gan alluogi ein lleoliadau, sinemau a gwyliau gwych ar draws y DU i aros mewn busnes yn y tymor byr. Ond, mae’n amlwg bod y cyrff hanfodol ac unigryw yma, sydd yn hollbwysig i wead diwylliannol cyfoethog eu cymunedau lleol yn parhau i fod mewn argyfwng. Pan fyddan nhw’n cael ailagor, fe fydd gweithredu canllawiau cadw pellter cymdeithasol yn ddiogel yn amhosibl o ran logisteg i rai, a hefyd fe fydd nifer yn annhebygol o allu talu eu costau wrth weithredu ar gapasiti llai. Fe fyddai colli’r arddangoswyr yma yn golled diwylliannol enfawr i gynulleidfaoedd y DU ac felly rwyf yn falch bod FAN wedi gallu eu helpu i gadw’r goleuadau ymlaen tra mae pawb ohonom yn wynebu’ sialensau i ddod.”

Ychwanegodd Rhys Roberts, Cydlynnydd Sinema yn CellB:

“Mae digwyddiadau yn y gorffennol yn sinema CellB Blaenau Ffestiniog ar adegau wedi cystadlu gyda’r ddrama a welir fel rheol ar ein sgin sinema. Rydyn ni wedi gweld ein cymuned a sêr Hollywood yn cefnogi dyfodol llachar i’r ased mwyaf gwerthfawr yn ein cymuned.

“Yn ddiweddar rydym wedi wynebu bygythiad swreal y pandemig Covid-19, a diolch i gefnogaeth Canolfan Ffilm Cymru a FAN BFI rydyn ni’n gweld y sinema bach dewr yma yn ymladd yn ôl unwaith eto gan gamu i fyd newydd a gwahanol sydd yn cael ei yrru gan ein pobl ifanc creadigol, yr ydym yn eu galw yn ‘Quaran-teens’. Rydyn ni’n barod am y bennod nesaf yn ein drama.”

Dywedodd Lauren Orme, Cyfarwyddwraig Gŵyl Animeiddio Caerdydd:

“Mae Covid-19 wedi cael effaith enfawr ar Ŵyl Animeiddio Caerdydd, fel ag ar cymaint o gyrff celfyddydol. Roedd gorfod gwneud y penderfyniad i ohirio ein gŵyl dair wythnos yn unig cyn ein dyddiadau gosod wedi gallu bod yn ddiwedd arnom ni fel corff.

Mae Canolfan Ffilm Cymru wedi bod yn eithriadol o gefnogol drwy gydol y cyfnod yma. Mae’r cyllid newydd yma yn llinell bywyd a fydd yn ein galluogi i gefnogi gweithwyr llawrydd a chontractwyr, datblygu gwaith newydd a chyffrous i wasanaethu’r gymuned sydd wedi’i hadeiladu o gwmpas ein gweithgaredd dros y pum mlynedd a hanner diwethaf, a helpu ein cynulleidfaoedd i deimlo’n gysylltiedig drwy animeiddio annibynnol tra rydyn ni ar wahân."

Mae’r gronfa gwytnwch ar gael drwy gyllid y Loteri Cenedlaethol, a ailbwrpaswyd gan Y Sefydliad Ffilm Pryfdeinig BFI drwy ei Rwydwaith Cynulleidfa Ffilm (FAN). Mae’r gronfa yn cynnig rhyddhad hanfodol a pharhad busnes i arddangoswyr ar draws y DU gyfan.

Gweinyddir cronfeydd yng Nghymru gan Ganolfan Ffilm Cymru drwy Chapter fel y Corff Arweiniol Canolfan Ffilm. Fe fyddan nhw’n cael eu defnyddio tuag at gostau na ellir eu hadfer, i ddarparu gweithgareddau creadigol ar-lein yn ystod y cyfnod cloi ac amser staff i gynllunio tuag at ailagor yn ddiogel.

Diwedd

Darllenwch y datganiad i’r wasg llawn yma.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch os gwelwch yn dda gyda:

Rhanbarth: Gogledd Orllewin Cymru

Gwallgofiaid, CellB (Blaenau Ffestiniog)
Gwallgofiaid is a not for profit social enterprise run from the old Blaenau police station. Proceeds from the cinema go towards training in creative arts and media for local young people.

Yn dilyn gwaith ar bibell wedi byrstio yn y sinema yn y gaeaf yn 2017, gyda chefnogaeth Rhys Ifans a’u hymdrech codi arian llwyddiannus, cafodd CellB ei daro gan gyfnod cloi y pandemig Covid-19. Fe fydd cyllid Canolfan Ffilm Cymru yn cefnogi staffio craidd a chostau gweithrediadol na ellir eu talu heb incwm tocynnau.

Yn ystod y cyfnod cloi, mae Gwallgofiad yn parhau i siarad gyda’u pobl ifanc greadigol a phensiynwyr lleol am sefyllfaoedd gwytnwch. Mae ganddyn nhw pob math o syniadau creadigol ar y gweill ar gyfer y dyfodol, yn cynnwys dangosiadau sinema awyr agored ‘Mwoo’ lle fydd cynulleidfaoedd yn cadw pellter cymdeithasol ar lled buwch

Theatr y Ddraig (y Bermo):
Situated on the west coast of Snowdonia, this imposing, converted Victorian chapel houses a 186-seat traditional theatre auditorium offering a year-round programme of activities. The building is lovingly run and maintained by a small team and many hard-working volunteers.

With all events cancelled by mid-March and plans to address flood damage postponed, the theatre’s annual insurance costs will be supported through the FHW grant.

Neuadd Ogwen (Bethesda):
Canolfan gelfyddydau cymunedol ydy Neuadd Ogwen wedi’i lleoli yn yr hen neuadd bentref ym Methesda, Gwynedd. Gyda 354 o seddi ac amserlen greadigol yn cynnwys ffilm, cynyrchiadau gan gwmnïau teithio lleol a chenedlaethol, bale, opera, dramau, pantomeimiau a chyngherddau.

Gyda’r holl ddigwyddiadau wedi’u canlso o ganol Mawrth, cefnogir costau staffio craidd a gweithrediadol gan grant Canolfan Ffilm Cymru. Mae Neuadd Ogwen hefyd yn bwriadu creu platfformau ar-lein o’r enw ‘Ein Dalgylch’ a fydd yn dod ag artistiaid o bob disgyblaeth allan o’r lleoliad ac i’r dyffryn, fforestydd a mynyddoedd ger Bethesda ar gyfer perfformiadau digidol.


Rhanbarth: Gogledd Orllewin Cymru


Cymuned 73 Gradd (Wrecsam):
Mae Sinema 73 yn glwb sinema hygyrch cymunedol a gynhelir mewn partneriaeth gyda Ty Pawb yn Wrecsam. Caiff y rhaglen ei churadu gan bwyllgor o arbenigwyr ffilm ac aelodau o grwpiau cymuned amrywiol ymroddedig.

Fe’u cefnogir gan gyllid Canolfan Ffilm Cymru i greu ‘staciau stori’ cyfryngau cymdeithasol gyda themâu gwahanol yn berthynol i ffilm i ysbrydoli cynulleidfaoedd i ddarganfod cynnwys a straeon newydd ar-lein.

Sinema Wicked (y Rhyl)
Mae Wicked Wales yn cynnig hyfforddiant a rhaglenni gweithgaredd drwy gydol y flwyddyn i bobl ifanc, yn cynnwys sinema pop-yp cymunedol sydd yn cael ei redeg gan bobl ifanc ar gyfer pobl ifanc a gŵyl ffilm ieuenctid blynyddol rhyngwladol sydd yn derbyn ceisiadau gan wneuthurwyr ffilm ifanc ledled y byd.

Roedd Wicked ar fin dathlu eu penblwydd yn dair oed pan fu’n rhaid iddyn nhw gau a’r cynlluniau ar gyfer yr ŵyl ym mis Medi hefyd wedi cael eu heffeithio. Fe fydd cefnogaeth Canolfan Ffilm Cymru yn cael ei ddefnyddio i helpu gyda chostau na ellir eu hadfer ac i gynnal cysylltiadau gyda’u tîm cynyddol o wirfoddolwyr ifanc sydd yn parhau i weithio ar eu menter Sefyll yn Erbyn Trais a enillodd Wobr Gemau y Flwyddyn y DU yn ddiweddar.


Rhanbarth: De Ddwyrain Cymru


Theatr y Savoy, (Trefynwy)
Mae’r Savoy yn sefyll ar safle theatr hynaf yng Nghymru, gydag addurniadau art deco hyfryd y tu mewn. Ar hyn o bryd mae’r adeilad rhestredig Gradd 2* yn cael ei reoli gan Ymddiriedolaeth Savoy Trefynwy. Mae’r rhaglen yn cynnig cymysgedd o ffilmiau nodwedd, adloniant byw a dgwyddiadau sinema arbennig.

Mae’r sinema wedi bod ar gau ers canol Mawrth gyda phob aelod o’r staff ac eithrio un ar seibiant. Fe fydd cefnogaeth Canolfan Ffilm Cymru yn galluogi cynnal y taflunydd ac offer technegol hanfodol eraill ochr yn ochr gyda chostau staffio a gweithrediadol na ellir eu hadfer. Mae staff wedi bod yn gweithio’n galed ar hanes y sinema ac yn bwriadu ailagor gydag arddangosfeydd newydd.

Gŵyl Animeiddio Caerdydd / CAF (Caerdydd) 
Mae CAF yn rhaglen blwyddyn gyfan ac yn ddathliad pedwar diwrnod bob dwy flynedd o animeiddio i bawb, gyda rhaglen o ansawdd uchel o ddangosiadau, dosbarthiadau meistr, sesiynau Holi ac Ateb, gweithdai, rhwydweithio, digwyddiadau hygyrch ac awyrgylch cymunedol cynhwysol.

Cafodd gŵyl Mawrh 2020 a’i ymarferwyr creadigol eu heffeithio’n fawr gan y cyfnod cloi gan esgor ar ohirio y digwyddiad cyfan. Mewn ymateb mae CAF wedi bod yn datblygu nifer o weithgareddau cyffrous ar-lein a gefnogir gan Ganolfan Ffilm Cymru. Mae digwyddiadau’n cynnwys dangosiadau Nosweithiau Animeiddio Caerdydd ar-lein misol, gweithdai animeiddio ar-lein a digwyddiadau is-deitlo gyda dehonglwyr Iaith Arwyddion Prydeinig (BSL).

Sinema Snowcat (Penarth)
Sinema pop-yp annibynnol ydy Snowcat yn ne Cymru gyda lleoliad parhaol ym Mhafiliwn Pier Penarth. Maen nhw’n dangos amrediad eang o ffilmiau o repetori i gwlt ac maen nhw’n gweithio gyda lleoliadau eraill i drefnu digwyddiadau o ddangosiadau syml i sinema digwyddiadau trochi!

Fe fydd cefnogaeth Canolfan Ffilm Cymru yn galluogi Snowcat i gynnal benthyciadau offer sinema, Cadwch lygad am eu fideos YouTube dyddiol, argymhellion Freeview, cydwylio a cwis ar-lein.

Canolfan Gelfyddydau’r Memo (y Bari)
Mae Canolfan Gelfyddydau’r Memo yn elusen annibynnol yng nghanol y Bari. Fel y lleoliad aml gelfyddydau mwyaf ym Mro Morgannwg maen nhw’n croesawu dros 100,000 o ymwelwyr i’r adeilad bob blwyddyn yn cynnwys dros 20,000 o bobl ifanc. Gyda theatr a sinema digidol 4k, maen nhw’n ganolfan hanfodol i’w cymuned leol a thu hwnt.

Gyda bron i 65% o’r incwm yn cael ei greu drwy werthiant tocynnau, bar a llogi cyfleusterau a’r holl incwm a enillir yn cael ei ddefnyddio i gynnal y lleoliad a’i raglen helaeth, mae’r tîm wedi bod yn gweithio’n ddiflino i liniaru efffaith Covid-19 a chynllunio ar gyfer y dyfodol.

Fe fydd cefnogaeth Canolfan Ffilm Cymru yn cael ei ddefnyddio ar gyfer costau na ellir eu hadfer a’r prosiect cyfranogiad llesiant digidol ‘The Space Between our Thoughts’. Fe fydd y prosiect amlgyfryngau yma yn gweithio gydag oedolion a grwpiau hyglwyf i nodi cymhelthdodau ailymgysylltu cynulleidfaoedd yn ystod ac ar ôl Covid-19.

 

Rhanbarth: Gorllewin Cymru


Sinema’r Commodore (Aberystwyth)
Sinema wedi ei adeiladu i’r pwrpas yn berchen ac yn cael ei redeg gan deulu. Agorodd y Commodore ei ddrysau am y tro cyntaf ym 1976 gyda dros 400 o seddi a gydag un o’r sgriniau sinema mwyaf yng Nghymru.

Mae Canolfan Ffilm Cymru yn falch o groesawu’r Commodore i’r Ganolfan fel aelod newydd eleni. Fe fydd cyllid yn cefnogi costau gweithrediadol na ellir eu hadfer. Cadwch lygad am eu tudalen Facebook am negeseuon rhyngweithiol rheolaidd.


Magic Lantern (Tywyn)

Mae Sinema Magic Lantern yn sinema un sgrin annibynnol yng nghefn gwlad Cymru gyda thaflunio digidol Sony 4k a sain Dolby 7.1. Maen nhw’n agor i’r cyhoedd 363 diwrnod y flwyddyn. Mae’r sinema agosaf atyn nhw dros 30 milltir i ffwrdd ac felly i nifer o bobl maen nhw’n adnawdd cymunedol hanfodol.

Gyda chynlluniau i ddangos teitlau newydd fel Bond a Parasite wedi cael eu heffeithio gan y cyfnod cloi, mae Magic Lantern wedi gweld effaith ariannol enfawr ar eu busnes.. Ynghyd â chostau na ellir eu hadfer, fe fydd cefnogaeth Canolfan Ffilm Cymru yn cefnogi prosiect cof cymunedol ar-lein sydd yn edrych ar hanes cymdeithasol y Magic Lnatern a’i bwysigrwydd yn y gymuned. Bond FAN BFI a Parasite impacted by unforeseen closure, the Magic Lantern have seen a huge financial impact to their business. Along with irrecoverable costs, FHW will support an online community memory project which explores the social history of the Magic Lantern and its importance to the community.


Rhanbarth, De Orllewin Cymru


Theatr y Torch (Aberdaugleddau)
Wedi’i sefydlu ym 1977, mae Theatr y Torch yn Sir Benfro yn cynnwys prif dŷ 300 sedd, theatr stiwdio 102 sedd ac oriel gelf, cyfleusterau bar a Chaffi Torch. Mae’r lleoliad wedi cael ei drawsnewid i greu lle hygyrch, cyfforddus a deniadol i fwynhau adloniant a’r celfyddydau gyda thechnoleg sinema digidol o’r radd flaenaf gyda galluoedd 3D.

With all plans on hold, including their exciting outdoor summer screening events, the Torch team will be supported with planning time to understand the landscape of future film releases alongside irrecoverable costs.

Theatr Gwaun (Abergwaun)
Mae Theatr Gwaun yn theatr, sinema, bar a chaffi annibynnol sydd yn cael ei redeg gan dîm ymroddgar cyfeillgar yng ngogledd Sir Benfro. Mae wedi bod yn lle o adloniant ers 1885 pan gafodd ei adeiladu fel neuadd ddirwest gan ddod yn un o’r sinemau cyntaf yng Nghymru yn gynnar yn yr 1920au, Maen nhw’n cyflwyno amrediad eang o ffilmiau arbenigol a phif ffrwd i bob rhan o’y cymuned leol. Maen nhw hefyd yn cynnal Cymdeithas Ffilm Abergwaun.

Gyda’r incwm wedi’i atal ac amrywiol grantiau wedi’u hoedi, fe fydd cefnogaeth Canolfan Ffilm Cymru yn cefnogi’r lleoliad gyda gwaith cynnal a chadw hanfodol a chostau na ellir eu hadfer a fydd yn eu galluogi i gynllunio ar gyfer ailagor.

Their ‘The Rainbow – If You Need Us Call Us’ campaign sees their volunteers undertaking non-medical errands for those who need help and ‘The Stage is Yours’ local fund-raiser with new short film in production, will tell the story of the theatre.


Rhanbarth: De Cymru/Cymoedd

 

Y Phoenix (Ton Pentre) 
Mae’r Phoenix yn sinema a theatr celfyddydau perfformiadol cymunedol Gradd 2* yn Nhon Pentre yng Nghwm Rhondda. Dechreuodd ffrynt yr adeilad ei fywyd fel yr Ocean Collieries, Maindy a Eastern Workman’s Library and Institute yn 1895. Dros ganrif yn ddiweddarach maen nhw’n dal i redeg yn gadarn gan ddangos ffilmau chwe diwrnod yr wythnos a rhaglen gynhwysfawr o ffilmiau annarferol, modern a heriol yn darparu ar gyfer pob oedran.

Closure has had a large impact on the charity’s plans for grant applications and impacted the team of volunteers who work with vulnerable communities across Rhondda Cynon Taff. The FHW grant will support the Phoenix with irrecoverable maintenance and film transport costs.


Rhanbarth: Cymry Gyfan


Gŵyl Animeiddio Siapaneaidd Kotatsu (lleoliadau Cymru gyfan)
Kotatsu is film festival specialising in Japanese animation, which takes place at Chapter in Cardiff and Aberystwyth Arts Centre in Aberystwyth.

The festival generally takes place each September, so fundraising and planning for the 10ed anniversary event has been hugely affected. FHW support will enable Kotatsu to offer a day of online Independent Japanese short films screenings during closure.

Gŵyl Ffilm WOW (lleoliadau Cymru gyfan)
Mae WOW wedi bod yn dathlu cyfoeth sinema byd ers 2001 gan gyflwyno detholiad eclectig, diddorol a phwerus o ffilmiau o amgylch y byd i sinemau ar draws Cymru. Mae WOW yn cyflwyno detholiad o’r gorau mewn sinema byd yn cynnwys ffilmiau o Gymru.

Agorodd gŵyl eleni gyda dangosiad ar Ddiwrnod Rhyngwladol Menywod ac roedd i fod i redeg tan Ebrill 8 yng Nghanolfan Gelfyddydau Aberystwyth, Kinokulture Croesoswallt, Pontio Bangor, Theatr Mwldan Aberteifi a Taliesin Abertawe ond fe’i gohiriwyd ddyddiau ar ôl dechrau. Fe fydd cefnogaeth Canolfan Ffilm Cymru yn helpu gyda chostau na ellir eu hadfer a chynllunio busnes ar gyfer y dyfodol.

 

Mae Canolfan Fffilm Cymru hefyd wedi buddsoddi £17,000 arall mewn rhwydweithiau rhanbarthol i ddiogelu gwasanaethau cefnogi rhanbarthol strategol yn ystod Covid-19 sydd yn cynnig cefnogeth i sinemau a gwyliau:

 

  • Rhwydwaith Gŵyl Ffilm Ieuenctid Cymru:Menter rhwydwaith gŵyl ffilm Gymreig a ddatblygwyd gan Ganolfan Ffilm Cymru, Wicked Wales (y Rhyl) a gwyliau allweddol o fewn y rhanbarth sydd yn gweithio i gynyddu rhaglenni ffilm annibynnol Prydeinig a rhyngwladol sydd ar gael ac wedi’u gwneud gan gynulleidfaoedd ifanc. Am ragor o wybodaeth cysylltwch gyda chydlynnydd y rhwydwaith Lorraine Mahoney.
  • Lleoliadau’r Fro
    Prosiect gwledig sir gyfan dan arweiniad Canolfan Gelfyddydau’r Memo yn y Bari ar ran 11 o leoliadau celfyddydau cymysg a sinemau cymunedol ar draws Bro Morgannwg. Fe fyddan nhw’n cefnogi cydweithredu rhwng partneriaid yn ystod y cyfnod cloi a chreu rhagor o ymwybyddiaeth cyhoeddus o weithgareddau lleol parhaus.
    https://www.memoartscentre.co.uk/vale-venues/
    https://www.facebook.com/ValeVenuesCinema
  • Off Y Grid
    Wedi’ sefydlu yn 2016, mae Off Y Grid (OYG) yn bartneriaeth rhwng saith sinema yng ngogledd Cymru sydd yn cydweithio i hyrwyddo ffilmiau Prydeinig annibynnol a rhyngwladol yn cynnwys rhai ffilmiau Cymreig. Diben y prosiect ydy lleihau ynysigrwydd gwledig drwy ddigwyddiadau fforddiadwy, cysylltiedig, creu teimlad o edrych ymlaen at ffilmiau Newydd yng ngogledd Cymru.

Mae lleoliadau Off Y Gridyn cynnwys Galeri, Caernarfon; Pontio, Bangor; CELLB, Blaenau Ffestiniog, Neuadd Dwyfor in Pwllheli, Dragon Theatre yn y Bermo, TAPE yn Hen Golwyn a Neuadd Ogwen, Bethesda.

Twitter, Facebook

Am Canolfan Ffilm Cymru: 

Nod Canolfan Ffilm Cymru ydy cyflwyno rhagor o ffilmiau i ragor o bobl mewn rhagor o leoedd o amgylch Cymru. Yn rhan o Rwydwaith Cynulleidfa Ffilm BFI, a gyda chefnogaeth cyllid y Loteri Cenedlaethol, mae Canolfan Ffilm Cymru yn rheolaidd yn datblygu ffyrdd dyfeisgar i bobl yng Nghymru fynd i’r sinema gyda’i leoliadau aelod annibynnol.

Mae Canolfan Ffilm Cymru yn un o wyth ‘canolfan’ DU gyfan, rhan o Rwydwaith Cynulleidfa Ffilm (FAN) BFI ac fe’i cefnogir gyda chyllid y Loteri Cenedlaethol gyda Chapter wedi’i benodi yn Gorff Arweiniol Canolfannau Film (FHLO) yng Nghymru. Ein nod ydy cyrraedd cynulleidfaoedd trwy ddatblygu’r sector arddangos, cynnig cefnogaeth prosiect ymchwil, hyfforddiant a datblygu cynulleidfaoedd. Ers sefydlu Canolfan Ffilm Cymru yn 2013 rydym wedi cefnogi dros 225 o brosiectau sinema a chyrraedd dros 465,000 o aelodau cynulleidfa

Rydym hefyd yn falch o arwain ar strategaeth sinema cynhwysol ar ran FAN BFI.

Gwefan, Twitter, Facebook

Am Rhwydwaith Cynulleidfa Ffilm BFI

Gyda chefnogaeth arian y Loteri Genedlaethol, mae'r Rhwydwaith Cynulleidfas Ffilm BFI (FAN), yn ganolog i nod y BFI i sicrhau bod y dewis mwyaf o ffilm ar gael i bawb. Wedi'i sefydlu yn 2012 i adeiladu cynulleidfaoedd sinema'r DU ehangach a mwy amrywiol ar gyfer ffilmiau Prydeinig a rhyngwladol, mae FAN yn gydweithrediad unigryw, ledled y DU sy'n cynnwys wyth Canolfan a reolir gan sefydliadau ffilm a lleoliadau blaenllaw sydd wedi'u gosod yn strategol ledled y wlad. Mae FAN hefyd yn cefnogi datblygiad talent gyda Gweothredwyr Talent Rhwydwaith BFI ym mhob un o'r Canolfannau Saesneg, gyda chenhadaeth i ddarganfod a chefnogi awduron, cyfarwyddwyr a chynhyrchwyr talentog ar ddechrau eu gyrfaoedd.

Canolfannau Ffilm FAN BFI yw:

  • Arweinir Canolfan Ffilm Canolbarth Lloegr gan Broadway, Nottingham yn gweithio mewn partneriaeth â'r Flatpack o Birmingham
  • Film Hub North dan gyd arweinyddiaeth Showroom Workstation, Sheffield, HOME Manchester a Tyneside Cinema, Newcastle
  • Arweinir Canolfan Ffilm De Ddwyrain gan yr Independent Cinema Office
  • Arweinir Canolfan Ffilm De Orllewin gan Watershed ym Mryste
  • Arweinir Canolfan Ffilm yr Alban gan Glasgow Film Theatre
  • Arweinir Canolfan Ffilm Gogledd Iwerddon gan Brifysgol Queen's, Belfast
  • Arweinir Canolfan Ffilm Cymru gan Chapter yng Nghaerdydd
  • Arweinir Canolfan Ffilm Llundain gan Film London

Gwefan

 Am BFI

BFI ydy corff arweiniol y DU ar gyfer ffilm, teledu a’r delwedd symudol. Mae’n elusen diwylliannol sydd yn:

  • Curadu ac yn cyflwyno’r rhaglen gyhoeddus ryngwladol fwyaf o sinema byd i gynulleidfaoedd, mewn sinemau, gwyliau ac ar-lein
  • Yn gofalu am Archif Cenedlaethol BFI – yr archif ffilm a theledu mwyaf arwyddocaol yn y byd
  • Yn chwilio am y genhedlaeth nesaf o wneuthurwyr ffilm ac yn eu cefnogi,
  • Yn gweithio gyda’r llywodraeth a’r diwydiant i wneud y DU yn lle mwyaf creadigol gyffrous a ffyniannus i wneud ffilm yn rhyngwladol.

Wedi’i sefydlu ym 1933, mae BFI yn elusen gofrestredig wedi’i llywodraethu gan Siarter Brenhinol Cadeirydd Bwrdd Llywodraethwyr BFI ydy Josh Berger CBE.

Gwefan, Facebook, Twitter

Am Chapter

Mae Chapter yn un o ganolfannau celfyddydau mwyaf a mwyaf deinamig Ewrop gyda sinemau, theatrau, gofod arddangos, stiwdios a chaffi, bariau arobryn, dros 60 o ofod gweithio diwylliannol a rhagor.

Mae gan Chapter enw da rhyngwladol am ragoriaeth, arloesi a chydweithredu. Mae’n cynnig rhaglen newidiol barhaus o’r perfformiadau, ffilmiau ac arddangosfeydd gorau o Gymru ac o amgylch y byd.

Gwefan, Facebook, Twitter

^
CY