July 04, 12:30pm

Sinemaes: Y Chwarelwr

Eisteddfod Maes, Abergavenny
Gwefan yr Eisteddfod


Y Chwarelwr" (1935) gan Syr Ifan ab Owen Edwards a John Ellis Williams oedd y ffilm lafar gyntaf yn y Gymraeg. Er bod tair rîl gyntaf y ffilm wreiddiol yn ddiogel yn Archif Genedlaethol Sgrîn a Sain Cymru, 'roedd y rîl olaf ar goll ers blynyddoedd maith, felly penderfynodd y cyfarwyddwr teledu, Ifor ap Glyn, ei hail-greu er mwyn cyflwyno’r stori yn gyflawn i gynulleidfaoedd newydd. Defnyddiwyd actorion cyfoes i wneud hyn, gan ail-leisio'r ffilm gyfan er mwyn cysondeb, ac ychwanegu cerddoriaeth newydd o waith Pwyll ap Siôn. Drwy adfer y riliau gwreiddiol ac ychwanegu elfennau newydd, daethpwyd â'r ffilm hanesyddol hon yn fyw unwaith eto i gynulleidfa heddiw. Cyflwynir y ffilm gan Ifor Ap Glyn.


Hyd: 60 munud